Grwpiau Lleol
Sefydliad y Merched (WI) Swyddffynnon
Sefydlwyd WI Swyddffynnon ym 1953 ac mae wedi bod yn sefydliad bach gweithgar byth er hyny. Rydym yn cwrdd yn y Ganolfan dydd Llun cyntaf bob mis, ag eithrio mis Awst.
Ceisiwn ddarparu hwyl a chyfeillgarwch drwy gyfrwng amrywiol weithgareddau a digwyddiadau Cymunedol, fel y gwelir yn ein rhaglen, isod - gyda lluniaeth ysgafn, wrth gwrs.
Gall ein haelodau hefyd gymryd rhan mewn gweithgareddau a drefnir gan y Ffederasiwn Sirol – er enghraifft cwis, helfa drysor, chwarae dartiau, sesiynau crefft ac yn y blaen. Trafodir pryderon cymdeithasol pwysig yng nghyfarfodydd y Ffederasiwn Sirol ac yn ystod digwyddiadau arbennig eraill ac mae gan bob sefydliad gyfle i bleidleisio ar y fath bynciau yn ystod cyfarfod blynyddol y Ffederasiwn Genedlaethol.
Caiff pob aelod gopi o gylchgrawn y WI wyth gwaith y flwyddyn, ac mae’r rhain yn gynwysiedig yn y dâl aelodaeth blynyddol o £43.
Dyma’n rhaglen tan Ionawr 2021:
2020
6 Ionawr 2yp Cyfarfod yr Aelodau.
3 Chwefror 2yp Gwneud cawl neu botes
1 Mawrth Cawl a Chân – ymuno a'r Gymuned yn y Ganolfan i ddathlu Dydd Gwyl Dewi
2 Mawrth 2yp Gwyddor fforensig - Mark Johnson
6 Ebrill 7yp Crefftwaith Y Pasg
4 Mai Taith diwrnod I’r Amgueddfa Wlân Genedlaethol, Dre-fach, Felindre
1 Mehefin 7yp Noson Yoga mewn cadair
8 Mehefin Taith gerdded a chinio picnic yn Ynyslas, yna ymweliad
â ‘Blue Island Ceramics’
6 Gorffennaf 7yp Noson Chwaraeon
7 Medi 7yp Cyfarfod Agored: Dr. Alan Axford - HAHAV
(Hospice at Home Aberystwyth Volunteering)
5 Hydref 2yp Arlunio glan-môr
2 Tachwedd 2yp CCB (AGM)
7 Rhagfyr 2yp Crefftwaith Nadolig
14 Rhagfyr 1yp Cinio Nadolig.
2021
4 Ionawr 2yp Cyfarfod yr Aelodau.
Mae croeso bob amser i rai sydd heb fod yn aelodau. Gallwch ymuno â ni am ddau gyfarfod heb ddyletswydd i ymaelodi.
Newydd symud i'r ardal?...... byddem yn hynod falch i'ch croesawu.
Llywydd: Beth Horton - 01974 831 456
Is-Lywydd: Lin Bundy - 01974 831 453
Ysgrifennydd: Mary McGlynn - 01974 298 204
CYMDEITHAS EDWARD RICHARD
Byddwn yn trefnu sgyrsiau a digwyddiadau arbennig eraill fel rhan o raglen y Ganolfan. Cynhelir cyfarfodydd, fel arfer, ar Ddydd Mawrth, os yw’n bosibl y Dydd Mawrth cyntaf yn y mis am 2.00pm, ac ar y trydydd Ddydd Mawrth yn y mis am 7.30pm. Fel arfer, mae yna gysylltiad â’r ardal; nail ai siaradwr o’r cylch, neu destun sydd o ddiddordeb arbennig i drigolion yr ardal, ac yn aml, cawn sairadwr lleol ar bwnc o ddiddordeb lleol. Ble mae’n addas, ceir e.e, sleids i ychwanegu at ddiddordeb y sgwrs.
Dyma rai esiamplau o’r rhaglen sydd wedi’n diddanu ers ddechrau 2006, ac sydd bellach yn cynnwys cyfarfodydd Clwb 50+ Ystrad Meurig:
Yr Athro David Austin (Prifysgol Llanbed) – adroddiadau rheolaidd ar y gwaith archaeolegol yn Ystrad Fflur;
Paul Culyer – Gwaith Cyngor Cefn Gwlad Cymru, yn arbennig ar Gors Caron;
Ogwyn Davies – bywyd yr arlunydd;
Noel Ford – ei waith fel cartwnydd;
Christine Harrison - ei phrofiad o redeg Marathon;
Erwyd Howells - bugeila;
Diarmuid Johnson a Bruce Cardwell - o Ddyffryn Teifi i Wlad Pwyl, gan ddefnyddio lluniau a cherddoriaeth (ffliwt a sitern);
Jasmine Jones – mi ddes i ‘ma ‘da’r trên 50 mlynedd yn ôl….;
Y Parch. J Towyn Jones – hanesion ysbrydion wrth olau cannwyll;
Elvey MacDonald – Patagonia;
Annette Musker – hanes teulu;
Dr Andrew Prescott (Prifysgol Llambed) - Casgliad Ystrad Meurig, a ddaeth o lyfrgell bersonol Edward Richard ac sydd bellach wedi ei adnewyddu a’i gadw yn Llyfrgell Ymchwil y Brifysgol;
Dr Ann Rhys - taith feddygol
‘Rydym hefyd yn trefnu teithiau un-dydd neu fyrach, gan amlaf ym mis Mai neu Fehefin i ymweld ag, e.e.:
Caerdydd;
Yr Amgueddfa Wlân Genedlaethol yn Nhrefach Felindre, ac ymlaen i Gaerfyrddin;
Ffern Hanesyddol Acton Scott (a welwyd yn y rhaglen deledu ‘Victorian Farm’, a’r Amwythig;
Abertawe;
Ymweliadau ag amryw fusnesau lleol (chwarel, fferm wyau, fferm gwartheg godro, llety twristaidd).
Cysylltwch â’r Ganolfan os oes gennych unrhyw gwestiynau neu awgrymiadau.
GRWP CREFFT CANOLFAN EDWARD RICHARD
RHAGLEN 2019/2020:
Medi 21ain 2019 Prosiect Grwp - 'bunting' gwanwyn/haf
Hydref 12fed Prosiect Grwp, fel uchod.
Tachwedd 9fed Cerdyn Nadolig o arlunio sidan
Rhagfyr 14eg Pelen flodeuog yr Wyl
Ionawr 11eg 2020 Ffelt gwaell
Chwefror 8ed Prosiect Grwp, fel uchod
Mawrth 14eg Cerdyn penblwydd gellysg plyg
Ebrill 11eg Samplydd o frodwaith
Mai 9fed Argraffu â thaten
Mehefin 13eg Modelau clai oer
Sesiynau 2 awr yn cychwyn am 10.30 yb - yn cynnwys te neu goffi a bisgedi.
Aelodaeth blynyddol: £12.50 + £1 am bob sesiwn a fynychir
Cysylltwch â: Mary McGlynn 01974 298204, Lin Bundy 01974 831453
Dyma rai enghreifftiau o waith y Grwp Crefft:
Printers in the Sticks
Grwp bach o artistiaid o Ganolfan Edward Richard Ystrad Meurig ydym ni sy’n mwynhau arbrofi a phob math o greu printiau – o brintiau leino i lithograffau a phob math o ddulliau eraill.
Oes diddordeb gyda chi mewn printio? Cysylltwch â:
Cynthia – 01974 831 644 westney789@btinternet.com
Claire - 01570 493 246 dizzyflouk @yahou.co.uk
Sheena - 01974 282 325 sfd@aber.ac.uk