Cyfleusterau
Mae tair ystafell ar gael i’w llogi, sy’n addas ar gyfer cynadleddau, cyfarfodydd a gweithgareddau:
Y Neuadd, sy’n 5.5m o led x 11m o hyd x 6m o uchder.
Yr Ystafell Weithgareddau, sy’n 4.5m o led x 7m o hyd x 3.5m o uchder
Stydi'r Prifathro
Mae gwres canolog a digonedd o socedau trydan ymhob ystafell.
Mae i'r Neuadd lwyfan fodwlar, a ellir ei chodi pan fydd angen amdani.
Mae yno lwp anwythol argyfer rhai sydd ag anhawsterau clywed.
Mae bleind rholio ar bob un o'r ffenestri.
Mae yn yr Ystafell Weithgareddau gadeiriau cyffyrddus a byrddau hyblyg i'w defnyddio ar gyfer cyfarfodydd ney ddosbarthiadau. Mae'r ystafell yn addas hefyd ar gyfer nifer o weithgareddau ymarferol, er enghraifft crochenwaith neu argraffu.
Mae yn yr ystafell sinc ddwbl, ddofn, o ddur gloyw, gyda dwr poeth a dwr oer.
Yma eto, mae bleind rholio ar bob un o’r ffenestri.
Stydi'r Prifathro - Ystafell dawel wedi'i charpedu lan y grisiau o'r Brif Neuadd.
Yn y llun hwn, gwelir Y Neuadd wedi ei gosod ar gyfer cyngerdd neu gynhadledd fach, gyda’r llwyfan yn ei lle.
Yn y cyfluniad hwn, mae lle i gynnulleidfa o ryw 75. Cynhesir y Neuadd gan wres canolog ac mae ynddi ddigonedd o socedau trydan. Mae ffenestri tal y Neuadd yn wynebu’r de, sy’n rhoi i’r ystafell olau ac ehangder braf.
Mae’r drysau yn ochr y Neuadd yn arwain i’r gegin, sy’n hynod gyfleus ar gyfer darparu lluniaeth ysgafn.
Yn y llun hwn, gwelir Y Neuadd wedi ei gosod ar gyfer gwledda, gyda rhan o’r llwyfan wedi ei osod.
Mewn cyfluniad gwledda, mae lle i ryw hanner cant o westeion, os gosodir rhes ychwanegol o fyrddau i lawr canol y Neuadd. Cynhesir y Neuadd gan wres canolog ac mae ynddi ddigonedd o socedau trydan. Mae ffenestri tal y Neuadd yn wynebu’r de, sy’n rhoi i’r ystafell olau ac ehangder braf.
Mae’r ddau ddrws yn ochr y Neuadd ac yn y naill ben iddi, yn arwain i’r gegin, sy’n hynod gyfleus ar gyfer darparu prydiau bwyd a’u clirio’n ddiffwdan.
Llogi’r Neuadd
Gellir llogi’r Neuadd am leiafswm o £12.00 yr awr, neu o £100.00 y dydd.
I gael manylion pellach am gostiau llogi, cliciwch ar y tab ‘Bwcio’ ar ymyl y dalen hon.
Yr Ystafell Weithgareddau
Yr Ystafell Weithgareddau yw’r mwyaf amlbwrpas o’n holl gyfleusterau.
Mae’n addas ar gyfer:
- Pwyllgorau - gyda byrddau unigol neu mewn grwpiau.
- Darparu ystafell ychwanegol i’r Neuadd, i gynnal e.e. grwpiau trafod
- Ystafell luniaeth neu Far ar gyfer yr achlysuron mwyaf poblog a gynhelir yn y Neuadd.
- Meithrinfa neu ystafell chwarae.
- Ystafell weithgareddau ymarferol.
Mae ffenestri tal yn waliau dwyreiniol a gorllewinol yr ystafell yn rhoi golau dydd da ar gyfer gwaith ymarferol.
Mae yn yr Ystafell Weithgareddau sinc ddwbl, ddofn, o ddur gloyw, wedi ei gosod mewn man gweithio hir. Rhedir dwr poeth a dwr oer i’r sinc.
Mae’r ystafell yn 4.5m o led, yn 7m o hyd ac yn 3.5m o uchder. Mae ynddi wres canolog.
Llogi’r Ystafell Weithgareddau
Gellir llogi’r ystafell hon am leiafswm o
£7.00 yr awr, neu o £50.00 y dydd.
I gael manylion pellach am gostiau hurio, cliciwch ar y tab
‘Bwcio’ ar ymyl y dalen hon.
Stydi'r Prifathro
Mae Stydi'r Prifathro yn ystafell dawel, wedi ei charpedu, lan y grisiau o’r Brif Neuadd.
Llogi Stydi'r Prifathro
Gellir llogi’r 'Stydi' am £7.00 yr awr, £50.00 y dydd.
I gael manylion pellach am gostiau hurio, cliciwch ar y tab
‘Bwcio’ ar ymyl y dalen hon.
Posibiliadau
Celf a Chrefft yng Nghanolfan Edward Richard
Mae'r Ystafell Weithgareddau yn hynod addas ar gyfer gwaith celf a chrefft.
Gellir ei llogi am leiafswm o £7.00 yr awr, neu £50.00 y dydd i gael manteisio ar y cyfleusterau canlynol:
- Mae ffenestri tal yn waliau dwyreiniol a gorllewinol yr ystafell yn rhoi golau dydd da ar gyfer gwaith ymarferol.
- Mae yna ddigonedd o fyrddau hyblyg a chadeiriau cyffyrddus a ellir eu gosod yn ôl eich anghenion.
- Mae yn yr Ystafell Weithgareddau sinc ddwbl, ddofn, o ddur gloyw, wedi ei gosod mewn man gweithio hir. Rhedir dwr poeth a dwr oer i’r sinc.
- Mae'r ystafell yn 4.5m o led, yn 7m o hyd ac yn 3.5m o uchder. Mae ynddi wres canolog.
Am fanylion pellach ynglyn â llogi'r ystafell, cliciwch ar y tab ‘Bwcio’ ar ymyl y dalen hon.
Triniaethau Cyflenwol, Enciliadau a Dyddiau Tawel.
Mae amgylchedd tawel, gwledig Canolfan Edward Richard yn leoliad addas ar gyfer darparu amrywiol Driniaethau Cyflenwol neu drefnu Enciliadau neu Ddyddiau Tawel. Gweler uchod am fanylion y cyfleusterau sydd ar gael.
Mae amgylchedd tawel, gwledig Canolfan Edward Richard yn leoliad addas ar gyfer darparu amrywiol Driniaethau Cyflenwol neu drefnu Enciliadau neu Ddyddiau Tawel.
Gweler uchod am fanylion y cyfleusterau sydd ar gael.
Mae dewis o westai a llefydd i aros yn y cylch. DOLEN I Visit Mid Wales
I logi'r cyfleusterau, cliciwch ar y tab ’Bwcio’ ar ymyl y dalen hon.