Grwpiau Lleol

Sefydliad y Merched (WI) Swyddffynnon

 

Sefydlwyd WI Swyddffynnon ym 1953 ac mae wedi bod yn sefydliad bach gweithgar byth er hyny. Rydym yn cwrdd yn y Ganolfan dydd Llun cyntaf bob mis, ag eithrio mis Awst.

Ceisiwn ddarparu hwyl a chyfeillgarwch drwy gyfrwng amrywiol weithgareddau a digwyddiadau Cymunedol, fel y gwelir yn ein rhaglen, isod - gyda lluniaeth ysgafn, wrth gwrs.

Gall ein haelodau hefyd gymryd rhan mewn gweithgareddau a drefnir gan y Ffederasiwn Sirol – er enghraifft cwis, helfa drysor, sesiynau crefft ac yn y blaen. Trafodir pryderon cymdeithasol pwysig yng nghyfarfodydd y Ffederasiwn Sirol ac yn ystod digwyddiadau arbennig eraill ac mae gan bob sefydliad gyfle i bleidleisio ar y fath bynciau yn ystod cyfarfod blynyddol y Ffederasiwn Genedlaethol.

Caiff pob aelod gopi o gylchgrawn y WI wyth gwaith y flwyddyn, ac mae’r rhain yn gynwysiedig yn y dâl aelodaeth blynyddol o £45.

 

Rhaglen 2026-2027

5 Ionawr 2.00pm - Prynhawn Aelodau.

2 Chwefror 2.00pm - Awyr y Nos - Dafydd Wyn Morgan

1 Mawrth 12.30pm - Cawl Dydd Gwyl Ddewi - Canolfan Edward Richard

2 Mawrth 2.00pm - Hanes yr Iwcalili a chyfle i roi cynnig arno - Steffan Rees

13 Ebrill 2.00pm - Cwis

11 Mai 12.00pm - Pryd yn y Llyfrgell Genedlaethol gydag ymweliad â gorsaf y Badau Achub yn dilyn

1 Mehefin 2.00pm - Trefnu Blodau gydag Annwen Davies

6 Gorffennaf 2.00pm - Prynhawn Gemau

Gorffennaf - Paentio Crochenwaith yng Nghanolfan Grefftau Corris - i'w gadarnhau

 Awst - Ymweliad â Chapel Cwmystwyth - Dyddiad i'w gadarnhau

7 Medi 2.00pm - Celf a Chrefft Asiaidd Rhan 2 - Anerchiad gan aelod o'r mudiad Julie Smith

5 Hydref 2.00pm - Anerchiad gan Swyddog Carchar sydd wedi ymddeol

2 Tachwedd 2.00pm - Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol

7 Rhagfyr 2.00pm Crefftau Nadolig

Rhagfyr Cinio Nadolig - Dyddiad i'w gadarnhau

2027

4 Ionawr 2.00pm - Prynhawn Aelodau.

 

Mae croeso bob amser i rai nad ydynt yn aelodau. Gallwch ymuno â ni am ddau gyfarfod cyn ymaelodi.

Newydd symud i'r ardal?...... byddem yn hynod falch i'ch croesawu.

Am ragor o wybodaeth e-bostiwch wiswyddffynnon@gmail.com

 

 

Swyddffynnon WI

 

 

 

GRWP CREFFT CANOLFAN EDWARD RICHARD

RHAGLEN 2025/2026

8 Mawrth -

12 Ebrill -

10 Mai -

14 Mehefin -

12 Gorffennaf -

13 Medi -

11 Hydref -

8 Tachwedd -

13 Rhagfyr -

10 Ionawr -

14 Chwefror -

 

Sesiynau 2 awr yn dechrau am 10.30 am. Cynhwysir te/coffi a bisgedi.

Ffi Aelodaeth Flynyddol £12.50 yn daladwy ym mis Mawrth + £1 pob sesiwn a fynychir.

Am ragor o wybodaeth e-bostiwch craftgroup256@gmail.com

 

Dyma rai enghreifftiau o waith y Grwp Crefft:

 

Craft group

 

 

 

 

Printers in the Sticks

Grwp bach o artistiaid o Ganolfan Edward Richard Ystrad Meurig ydym ni sy’n mwynhau arbrofi a phob math o greu printiau – o brintiau leino i lithograffau a phob math o ddulliau eraill.

Ystrad Meurig Printmaking group

Printmakers demonstration

www.facebook.com - Printers in the Sticks