Croeso
Datblygwyd Canolfan Edward Richard yn bennaf ar gyfer y gymuned leol ym mhentref hyfryd Ystrad Meurig, 13 milltir i’r de-ddwyrain o Aberystwyth. Mae trawsnewidiad cyfoes o’r adeilad hanesyddol gwreiddiol wedi creu lleoliad o safon i gynnal amryw weithgareddau a digwyddiadau cymdeithasol a diwylliannol, yn ogystal â chyfarfodydd a chynadleddau bach.
Llogwch Ganolfan Edward Richard wrth yr awr, wrth y dydd neu fesul wythnos.
Croesawn ymholiadau ynglyn â chynnal grwpiau, neu ddosbarthiadau, neu ddigwyddiadau arbennig.
Mae'r adeilad wedi ei gymhwyso ar gyfer:
- Cyfarfoddydd mawr a bach
- Seminarau hyfforddi
- Cyngherddau
- Dosbarthiadau addysgol
- Priodasau a digwyddiadau cymdeithasol
- Penwythnosau astronomeg a phartïon gwylio'r sêr
- Canolfan astudio archaeoleg, astronomeg, botaneg a hanes ac i wylio adar