Hanes y Ganolfan

 

Yr adeilad

Mae’r Ganolfan wedi ei lleoli yn hen adeilad hanesyddol Ysgol Ramadeg Edward Richard, ger Eglwys Sant Ioan. Cychwynnwyd ysgol gan Edward Richard ym 1734 a gynhaliwyd yn yr eglwys hyd nes i adeilad pwrpasol gael ei godi ym 1812-15. Roedd yn ganolfan addysgol bwysig yn arbenigo mewn hyfforddi gwyr ieuanc i’r offeiriadaeth. Caewyd yr Ysgol ym 1972 ac fe ddefnyddiwyd yr adeilad fel neuadd yr eglwys, ar gael hefyd i’r gymuned gyfan. Oherwydd prinder arian i ymgymryd â’r gost enfawr o gynnal a chadw'r adeilad bu’n rhaid ei gau ym 1992.